Achubwr bywyd / Lifeguard - Canolfan Hamdden Maldwyn
- newtown, wales, United Kingdom
- Permanent·On-site
- Full time
Job Description
Ymunwch â’r Egni yn Freedom Leisure – Gwneud yn Dda, Teimlo’n Dda!
Yn Freedom Leisure, mae popeth yn ymwneud ag awyrgylch cadarnhaol, pobl wych, a chael effaith go iawn. Ydyn, rydyn ni’n rhedeg cyfleusterau hamdden a diwylliannol, campfeydd, a phyllau nofio- ond wrth wraidd y cyfan, ein pobl ni sy'n gwneud y gwahaniaeth.
Fel un o ymddiriedolaethau hamdden elusennol blaenllaw'r DU, rydyn ni’n falch o'n cenhadaeth o Wella Bywydau Trwy Hamdden. Rydyn ni yma i helpu cymunedau i fyw bywydau iachach a hapusach trwy wneud ein canolfannau'n groesawgar, yn gynhwysol, ac yn hygyrch i bawb - oherwydd mae pawb yn haeddu teimlo'n dda. Rydyn ni i gyd am ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid anhygoel gyda gwên—bob dydd. Rydyn ni’n creu mannau lle mae pobl yn teimlo'n gartrefol, wedi'u cefnogi, ac wedi'u hysbrydoli.
Os ydych chi'n angerddol am helpu eraill ac yn caru creu profiadau gwych, byddwch chi'n teimlo'n gartrefol gyda ni. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr i ddechrau - byddwn yn rhoi'r holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi. Gyda dros 130 o ganolfannau ledled Cymru a Lloegr, mae yna lawer o le i dyfu. Mae llawer o'n tîm wedi adeiladu gyrfaoedd anhygoel gan gwneud yr hyn maen nhw'n ei garu, gan helpu cwsmeriaid o ddydd i ddydd a gwneud i bobl deimlo'n dda.
Rydyn ni’n falch o fod yn weithle lle mae croeso i bawb, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a'u cefnogi i ffynnu—oherwydd pan fydd ein tîm yn adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, rydyn ni i gyd yn tyfu'n gryfach gyda'n gilydd.
Os ydych chi’n hoffi siarad â phobl yna dyma’r rôl i chi yn bendant. Rydyn ni’n deall nad yw meithrin perthynas â chwsmeriaid a chydweithwyr mor hawdd ag y mae’n swnio a weithiau fe ddaw gyda phrofiad. Byddwn yn darparu’r holl hyfforddiant angenrheidiol i fod yn Achubwr Bywyd llwyddiannus ond rydyn ni hefyd yn credu fod cyflogi pobl o gymysgedd o gefndiroedd cyflogaeth yn gallu bod yn fwy buddiol i’n tîm, efallai bydd rhai yn eu swydd gyntaf erioed ag angen rhagor o gefnogaeth oddi wrth eu cydweithwyr.
Yn eich rôl fel Achubwr Bywyd, byddwch yn sicrhau bod y lefelau gorau o wasanaeth yn cael eu cyflawni i’n cwsmeriaid drwy gynnig cyfleusterau cyfeillgar, glân a diogel.
Dydyn ni ddim yn chwilio am y Duncan Goodhew nesaf ond bydd yn angenrheidiol eich bod chi’n gallu nofio’n bur dda. Os oes angen hyfforddiant ychwanegol arnoch chi i gyrraedd y lefel angenrheidiol i fod yn achubwr bywyd, peidiwch â phoeni, achos bydd un o’n hathrawon nofio ardderchog yn gallu’ch cefnogi chi i wella.
Os ydych am wneud cynnydd pellach, byddwn yn cefnogi hyn drwy hyfforddiant ychwanegol, yn ffurfiol ac fel rhan o’r swydd. Fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn gwerthfawrogi nad yw pawb am ‘ddringo’r ysgol’ ac mae hynny’n hollol iawn gyda ni. Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw eich bod chi’n hapus yn eich gwaith.
Hours: 37 hours a week, Monday to Sunday (rota basis)
Gofynion:
- Gallu a dealltwriaeth o sut i ymwneud â chwsmeriaid o bob oed a gallu, a hefyd pob lefel o staff
- Sgiliau rhyngbersonol datblygedig
- Agwedd o weithio fel tîm, yn gallu gweithio ar draws ffiniau’r sefydliad a dangos diddordeb a chefnogi gwaith staff a chydweithwyr
- Gallu gweithio’n hyblyg a deall cyfarwyddiadau gan reolwyr
- Dangos angerdd ac egni i’r diwydiant hamdden
- Yn hyblyg ac ystwyth
- Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
- An ability and understanding of how to relate to customers of all ages and abilities and also to all levels of staff
- Well developed interpersonal skills
- Team orientated approach, able to work across organisation boundaries and demonstrate interest and be supportive of the work of staff and colleagues
- To be able to work flexibly and understand instructions from managers
- Demonstrated passion and energy for the leisure industry
- Flexible and adaptable
- NPLQ qualification (training can be provided)
- Welsh Language skills are desirable
Rydym am i chi fod wrth eich bodd yn dod i’r gwaith, gan deimlo’n iach, yn hapus ac yn cael eich gwerthfawrogi. Dyna pam ein bod ni wedi datblygu pecyn buddion gyda chi mewn golwg. Felly beth allwn ni ei gynnig i chi?
- Pensiwn cwmni
- Cynlluniau beicio i’r gwaith a llogi ceir treth effeithlon
- Aelodaeth Rhatach i Staff (gan gynnwys aelodau o'r teulu)
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr: cyngor cyfrinachol, annibynnol a phroffesiynol 24/7
- Cyngor ariannol
- Hawl i wyliau blynyddol cynyddrannol
- Cynllun buddion My Staff Shop i weithwyr, yn cynnig gostyngiadau ar docynnau sinema, teithio, e-dalebau stryd fawr, cardiau rhodd, diwrnodau allan, gweithgareddau hamdden a gwariant bob dydd
- Hyfforddiant a datblygiad wedi’u ariannu’n llawn, gyda chyfleoedd datblygu gyrfa
- Amrywiaeth o gynlluniau yswiriant a chynilo
We want you to love coming to work, feeling healthy, happy and valued. That's why we've developed a benefits package with you in mind, so what can we offer you?
- Company pension
- Cycle-to-work and car leasing tax-efficient schemes
- Discounted staff membership (including family members)
- Employee Assistance Programme: 24/7 confidential, independent and professional counselling
- Financial advice
- Incremental annual leave entitlement
- My Staff Shop employee benefits scheme, offering discounts on cinema tickets, travel, high street e-vouchers, gift cards, days out, leisure activities and everyday spending
- Fully funded training and development, with career progression opportunities
- Various insurance and savings schemes
Dyddiad cau: 2 Hydref 2026 / Closing date: 2nd October 2026
Cyflog: hyd at £24,519 y flwyddyn / Salary: up to £24,519 per annum
Mae Freedom Leisure yn falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed, ac rym...
Freedom Leisure is proud to be an equal opportunities employer.
We are committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people, and vulnerable adults, and we expect all staff and volunteers to share this commitment.
#J-18808-Ljbffr

